Huggard Reception Huggard Huggard Reception
Canolfan Huggard
The Huggard Centre

Elusen gofrestredig yw Huggard...Caring for Homeless sy’n cynnwys canolfan ddydd, uned gwelyau mewn argyfwng, a thai â chymorth – sy’n cynnig cymorth a chyfle i’r digartref ailasefydlu yn y gymuned.

Mae’n Ganolfan yn rhan ogleddol Bae Caerdydd.

Huggard
Canolfan Huggard
Tresillian Way
Caerdydd
CF10 5JZ

T: (029) 2034 9980
Ff: (029) 2034 9981
E: post@huggard.org.uk

Donation Online button 

Hafan Amdanom Ni Ein Nod Gwasanaethau Adroddiad Blynyddol Rhoddion Swyddi Dolenni English
Pwy yw'r Sengl Digartref?

Daw pobl sengl ddigartref o bob cefndir - o gartrefi “da” yn ogystal â chartrefi “gwael”, o deuluoedd cefnog a thlawd, yr hen a’r ifanc, dynion a menywod fel ei gilydd. Mae nifer fawr – cannoedd lawer yn y brifddinas yn unig – yn cysgu mewn hosteli, llety “gwely a brecwast” neu ar y strydoedd.

Ychydig iawn sy’n ddigartref o’u gwirfodd. Byddai’n well gan y rhan fwyaf ohonynt gael cartref a gwaith, a setlo ’lawr i fywyd bob dydd. Ond mae’n anodd iawn camu o fywyd y stryd i fywyd annibynnol unwaith eto.

Ond mae modd gwneud hynny gyda digon o gymorth! Mae cymorth o’r fath ar gael gan Huggard.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae ein drysau wedi bod ar agor i’r rhai yng Nghaerdydd sydd angen ein gwasanaethau y mwyaf. Mae nifer ohonynt wedi teithio o bob cwr o Gymru a’r tu hwnt i gyrraedd y brifddinas hon. Mae ein canolfan yn derbyn 18,500 o ymweliadau y flwyddyn ac mae 40% o’r rhai sydd yn defnyddio ein gwasanaethau o dan 25 oed.

Er ein bod wedi profi nifer gynyddol o bobl ifainc yn defnyddio ein gwasanaethau nid yw ein cleientiaid yn gallu cael eu diffinio gan ystrydeb glir am fod gan bob un ohonynt ei gefndir a’i stori ei hun. Mae rhai wedi cael eu cam-drin; rhai wedi profi torberthynas neu farwolaeth anwylyd; rhai yn dioddef o broblemau corfforol neu iechyd meddwl difrifol; rhai yn gaeth i alcohol neu gyffuriau; rhai wedi troi at drosedd ar y stryd a phuteindra er mwyn goroesi. Beth bynnag eu stori, mae pob un o gleientiaid Huggard yn rhywun sydd yn agored i niwed ac yn dioddef allgau cymdeithasol difrifol.

Rydym yn gwybod ei fod, fel arfer, yn gylch sydd yn anodd ei dorri. Rydym yn gweld ein rôl fel un sydd yn croesawu, ymgysylltu, cefnogi, maethu a datblygu pobl i beidio â bod yn ddigartref bellach. Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau, cyfleoedd i ddatblygu a llety er mwyn helpu pobl i gyflawni hyn.

Efallai bod ethos ein gwaith yn cael ei ddiffinio’r gorau gan Darren T Atkins, un o ddefnyddwyr gwasanaeth Huggard sydd yn ysgrifennu;

“Nid oes yn rhaid i ddigartrefedd eich rhwystro chi rhag gwneud yr hyn rydych chi am ei wneud yn eich bywyd. Edrychwch arna i, rydw i’n ddigartref ond dydy hynny ddim yn fy rhwystro rhag ysgrifennu straeon byr ar fod yn ddigartref. Os ydych chi am ddysgu sgil newydd ewch i’w ddysgu oherwydd dydy bod yn ddigartref ddim yn eich rhwystro rhag dysgu’r sgil yna. Rydw i am fod yn ysgrifennwr. Rydw i’n ddigartref ac mae gen i amser i ysgrifennu. Mae bod yn ddigartref wedi golygu fy mod i wedi gwneud ffrindiau â llawer o bobl ac rydw i wedi derbyn cefnogaeth fyddwn i ddim wedi’i derbyn o’r blaen. Rydw i’n teimlo’n falch ac yn derbyn parch. Mae rhai pobl yn gwneud i’w hunain deimlo’n isel eu hysbryd am eu bod wedi colli popeth, eu cartref, eu teulu a’u swydd. Mae’n bosib cael hynny i gyd eto os ydych chi eisiau ei gael e. Does dim yn rhaid i chi aros yn ddigartref am byth.”

Gall ychydig oriau o’ch amser chi helpu i sicrhau fod ein cyfleusterau yn parhau i fod ar gael i bobl fel Darren. Beth am gymryd rhan yn ein ‘sleepout’ blynyddol a rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i bobl ddigartref a phobl sydd yn agored i niwed?

Ar gyfer y rhai sydd yn gallu ei wneud byddwn ni’n cwrdd y tu ôl i siop Marks and Spencer ar Rodfa’r Eglwys Gadeiriol am tua 9.00yh. Bydd cawl a diodydd poeth ar gael. Os nad yw’n bosib i chi ymuno â ni gellwch chi gymryd rhan trwy drefnu eich ‘sleepout’ eich hun a’i gynnal yn eich ysgol neu’ch neuadd gymunedol neu gellwch chi roi cyfraniad fel rhodd ar gyfer y fraint o dreulio’r noson honno yn eich gwely clyd eich hun.

Byddwn yn hynod ddiolchgar am unrhyw fath o gyfranogaeth i’r digwyddiad hwn.

Os hoffech chi gymryd rhan neu hoffech chi gael rhywun o’r ganolfan i ddod i siarad â grŵp dylech chi gysylltu â ni. Byddwn yn falch iawn i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.

 

Ffoto: Y Drws Agored
Rhif elusen gofrestredig 703074. Rhif cwmni cofrestredig 2509188.

29intenret.com