Huggard Reception HUGGARD.....Caring for Homeless Huggard Reception
Canolfan Huggard
The Huggard Centre

Elusen gofrestredig yw Huggard...Caring for Homeless sy’n cynnwys canolfan ddydd, uned gwelyau mewn argyfwng, a thai â chymorth – sy’n cynnig cymorth a chyfle i’r digartref ailasefydlu yn y gymuned.

Mae’n Ganolfan yn rhan ogleddol Bae Caerdydd.

Huggard
Canolfan Huggard
Tresillian Way
Caerdydd
CF10 5JZ

T: (029) 2034 9980
Ff: (029) 2034 9981
E: post@huggard.org.uk

Donation Online button 

Hafan Amdanom Ni Ein Nod Gwasanaethau Adroddiad Blynyddol Rhoddion Swyddi Dolenni English
Rhonddion - HELPWCH NI I HELPU’R DIGARTREF

Credwn ein bod yn cynnig gwerth da am arian am bob punt a ddaw o ffynonellau statudol a gwirfoddol.

Does dim amser i laesu dwylo, fodd bynnag, gan ein bod yn gwella’n gwasanaethau i gleientiaid yn gyson. Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad bach neu fawr tuag at y coffrau.

Croeso i chi anfon cyfraniadau ariannol at Mr Kuldip Gill, ein Swyddog Cyllid, yn y cyfeiriad gyferbyn.

Yn ogystal â rhodd ariannol, byddai bwyd a dillad o fudd mawr i ni hefyd. Os allwch chi’n helpu ni fel hyn, cysylltwch â’r Prif Weithredwr, Richard Edwards.

Allwch chi roi rhywfaint o’ch amser sbâr i’n helpu ni? Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu ni i redeg y ganolfan. Mae’r dyletswyddau’n amrywio o helpu yn y gegin i helpu’r gweithwyr prosiect yn y swyddfa. Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â Layton (Percy) Jones, Dirprwy Reolwr Cyffredinol. Bydd eich cymorth chi’n gwneud byd o wahaniaeth.

Ffoto: Huggard yn yr ardd
Rhif elusen gofrestredig 703074. Rhif cwmni cofrestredig 2509188.

29intenret.com